Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
|
||
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Pleidleisiau a Thrafodion (114) |
1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 11 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 12 yn ôl. Trosglwyddwyd cwestiwn 13 i’w ateb yn ysgrifenedig.
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth
Dechreuodd yr eitem am 14.12
Gofynnwyd y naw cwestiwn cyntaf.
3. Dadl ar ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofal preswyl i bobl hŷn yng Nghymru
Dechreuodd yr eitem am 15.00
NDM5165 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar ei ymchwiliad i ofal preswyl i bobl hŷn yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Rhagfyr 2012.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Chwefror 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
4. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid, ‘Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru’
Dechreuodd yr eitem am 15.45
NDM5166 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Effeithiolrwydd Cyllid Strwythurol Ewropeaidd yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Rhagfyr 2012.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Dechreuodd yr eitem am 16.36
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5167 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Stats Cymru yn amcangyfrif bod 31,644 o gartrefi gwag yng Nghymru, gyda 23,287 wedi’u dosbarthu fel anheddau gwag tymor hir.
2. Yn croesawu bwriad cynllun ‘Troi Tai’n Gartrefi’ Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y £5 miliwn ychwanegol a fuddsoddir yn y cynllun o ganlyniad i’r fargen ar y gyllideb gyda Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn 2012-13.
3. Yn croesawu’r cynnydd o ran lleihau nifer y cartrefi gwag yng Nghymru 2,000, ond yn credu bod angen gwneud rhagor i ddatblygu strategaeth tai gwag gydlynol, sy’n cynnwys:
a) creu gwefan Cartrefi Gwag Cymru i rannu cyngor a chyfarwyddyd ac i godi proffil y cynllun cartrefi gwag;
b) Swyddog Cartrefi Gwag cyfwerth ag amser llawn ym mhob awdurdod lleol i fynd â'r cynllun rhagddo;
c) symleiddio’r ddeddfwriaeth a’r gweithdrefnau sy’n ymwneud â Gorchmynion Rheoli Anheddau Gwag a Gorchmynion Prynu Gorfodol;
d) diweddaru canllawiau arfer da cartrefi gwag i awdurdodau lleol;
e) rhoi rhagor o hyblygrwydd i gynghorau osod cyfraddau’r dreth gyngor cosbol ar gartrefi gwag tymor hir;
f) hybu rhannu enghreifftiau o’r arfer gorau a hwyluso gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol; ac
g) edrych ar gynllun cymhellion i gynghorau lleol ar gyfer pob cartref sector preifat tymor hir sy’n cael ei ddefnyddio unwaith eto, yn debyg i gynllun ‘New Homes Bonus Scheme’ Llywodraeth y DU.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
17 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.36
6. Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.38
NDM5168 Lynne Neagle (Tor-faen):
Lleddfu’r Ergyd
Lliniaru Effaith y Dreth Ystafelloedd Gwely yng Nghymru
Daeth y cyfarfod i ben am 18:02
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 26 Chwefror 2013